GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
129 - Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 Gosodwyd yn Senedd y DU: 5 Ebrill 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 13 |
SICM o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau
Gwneir y Rheoliadau hyn gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae taliadau a wneir o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn perthyn i ddwy elfen: Colofn 1 (taliadau uniongyrchol i ffermwyr) a Cholofn 2 (cyllid datblygu gwledig). Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am bolisi yng Nghymru. Roedd cyfraith yr UE yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud trosglwyddiadau rhwng y ddwy golofn o hyd at 15 y cant o'r cronfeydd. O dan y gyfraith bresennol (Rheoliad Rhif 1307/2013 yr UE), daeth y gallu i wneud hynny i ben ddiwedd mis Awst 2018. Gwnaed diwygiadau i'r Rheoliad UE hwn gan Reoliad 2019/288 yr UE. Mae'r cyfnod bellach wedi'i ymestyn i 31 Rhagfyr 2019.
Mae'r Rheoliadau a restrir yn natganiad Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu gwneud i roi effaith barhaus i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (fel cyfraith yr UE a gedwir) ar ôl ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, ers y gwnaed y Rheoliadau hynny, mae'r newidiadau i Reoliad 1307/2013 yr UE a nodwyd uchod hefyd wedi dod i rym.
Erbyn hyn, mae angen adlewyrchu'r newidiadau hynny hefyd yn y DU. Mae'r offeryn hwn yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae hefyd yn dileu rhai gwallau mân yn y gyfraith bresennol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 10 Ebrill 2019, ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |